Eisteddfod Genedlaethol Cymru

 

Gellwch Gael y Newyddion Diweddaraf ar Wefan yr Eisteddfod >> Newyddion

NEWYDDION O SWYDDFA’R EISTEDDFOD

Huw wrth y Llyw

Huw Llywelyn Davies, y darlledwr rygbi, yw Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith sy’n cydlynu’r holl drefniadau ar gyfer gŵyl enfawr Eisteddfod Caerdydd a’r Cylch 2008. Wrth dderbyn y cyfrifoldeb dywedodd Huw “Mae’n fraint ac yn anrhydedd i fod yn rhan o dîm brwdfrydig sydd am sicrhau llwyddiant y Brifwyl yn ein Prif Ddinas. Hoffwn annog pawb i dynnu at ei gilydd ac i gydweithio ac i godi ymwybyddiaeth trigolion y ddinas.”
“Yn barod mae pethau yn argoeli’n dda gyda llu o weithgareddau codi arian wedi eu trefnu gan y pwyllgorau apêl lleol. Mae'r gwaith o lunio rhestr testunau a dewis beirniaid yn mynd yn ei flaen yn hwylus iawn ac mae rhaglen gref a diddorol eisoes ar y ffordd” meddai Huw.
Yr Athro Sioned Davies yw’r Is-gadeirydd a Gill Griffiths yw Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith.

 

Hwb i Apêl yr Eisteddfod
Lluniau Kyffin Williams, noson mewn tipi, esgid bêl-droed wedi ei harwyddo gan Beckham – aeth y cyfan mewn Ocsiwn Fawr tuag at Eisteddfod 2008. Codwyd £10,500 yn y Cinio ag Ocsiwn yn y Gyfnewidfa Lo ym mis Hydref pan ddaeth 300 ynghyd i wledda a dawnsio mewn noson a gyflwynwyd gan Nia Roberts ac Arfon Haines Davies yn ocsiwna.

Pwyllgorau Testunau
Wrth i Eisteddfod Abertawe a’r Cylch ddechrau pylu yn y cof daeth yn amser symud ymlaen gyda threfniadau Eisteddfod Genedlaethol 2008. Mae’r Pwyllgor Llywio wedi bod yn weithredol ers peth amser ond yn awr mae angen ffurfio’r pwyllgorau testunau a, maes o law, gweddill y pwyllgorau.

Yn dilyn arbrawf llwyddiannus ar gyfer Eisteddfod 2007, bwriedir parhau gyda’r drefn newydd o weithredu trwy wneud y cyfan mewn sesiynau ar ddyddiau Sadwrn.

Byddwn yn cychwyn ar y gwaith o sefydlu’r pwyllgorau pwnc sef Alawon Gwerin, Celfyddydau Gweledol, Cerdd Dant, Cerdd, Dawns, Drama, Dysgwyr, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Llefaru, a Llenyddiaeth yn Neuadd Ysgol Glantaf, Caerdydd, ddydd Sadwrn 14 Hydref am 10:30 y bore  a  hoffwn wahodd PAWB sy’n dymuno gweld llwyddiant yr Eisteddfod yn 2008 i’r cyfarfod yma. Awn ati nid yn unig i enwebu swyddogion y pwyllgorau testunau, ac fe fyddwn yn ddiolchgar petai pawb yn ystyried enwau addas ar gyfer y swyddi cyn y cyfarfod, ond hefyd i gychwyn ar y gwaith o ddifrif. Bydd gwybodaeth am destunau’r gorffennol ar gael yn ogystal â llawer o fanylion eraill. Fodd bynnag er mwyn i’r holl beth weithio, mae eisiau gwneud ychydig o waith cartref ymlaen llaw a dod yno gyda syniadau ac o bosib, copïau, gyda chi ar y diwrnod.

Yr ail gam fydd cynnal diwrnod pellach o gyfarfodydd ddydd Sadwrn 18 Tachwedd am 10:00 yn Ysgol Glantaf er mwyn parhau a chwblhau, gobeithio, y gwaith o lunio'r Rhestr Testunau. Mae hynny yn rhoi rhyw fis i bawb i gael hyd i destunau addas. Y trydydd cam fydd cydgyfarfod gydag aelodau Panelau Canolog yr Eisteddfod yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn 20 Ionawr 2007 er mwyn i bawb gytuno yn derfynol ar y ffrâm destunau. Mae hon yn ffordd newydd o weithredu a dyma fydd y patrwm o hyn ymlaen. Gall trigolion Caerdydd ymfalchïo yn y ffaith iddynt fod ar flaen y gad unwaith eto!

Edrychwn ymlaen at weld Neuadd Glantaf yn llawn ddydd Sadwrn 14 Hydref er mwyn rhoi cychwyn go iawn i Eisteddfod 2008. Os gwyddoch am unrhyw un fyddai â diddordeb, a fyddech gystal â’u perswadio neu ddod â hwy gyda chi?

Cinio Mawreddog
Erbyn hyn mae’r gwaith o godi arian ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd wedi cychwyn gyda nifer o Bwyllgorau Apêl wedi sefydlu ar draws y dalgylch ac ar nos Sadwrn, Hydref 21ain mi fydd y pwyllgor Llywio canolog yn trefnu cinio mawreddog yn y Gyfnewydfa Lo ym Mae Caerdydd.   Yn ystod y noson, cewch wledda yn nwylo ‘Bant a La Carte’, mentro mewn raffl ac ocsiwn, a dawnsio hyd oriau mân y bore i sain Jazz a disco.  Mae’r tocynnau yn £30 y pen, a gallwch archebu bwrdd i 10 neu docynnau unigol drwy gysylltu â Swyddfa’r Eisteddfod ar 02920 763 777.

Calendar Digwyddiadau

 

Linc i'r rhestr diweddaraf >> Digwydd

 

Dafydd Iwan

Dafydd Iwan

Gig Dafydd Iwan Pwyllgor Apêl Treganna 3 Chwefror 2007

Calendr 2007
Calendr 2007 Eisteddfod Caerdydd £3.95 - 029 20565658