Menter Caerdydd
Caerdydd
Cymorth.com Llinellau Ffôn Cymraeg

 

Cychwyn

‘Ieuenctid Caerdydd yn pwyso a’r Gynghorwyr y Ddinas’

Diwedd mis Rhagfyr rhoddodd grwp o ieuenctid o Ysgolion Gyfun Glantaf, Plasmawr a Fitzalan bwysau ar Gyngor Caerdydd i ddarparu clybiau a gwasanaeth ieuenctid drwy gyfrwng y Gymraeg yn y ddinas.

Gwnaeth y grwp ddangos fideo naethon nhw gynhyrchu i Gyngorwyr Cyngor Sir y Ddinas a’r Rhagfyr 15fed. Roedd y fideo yn trafod dymuniadau’r pobl ifanc i gael gweithgareddau tu allan i’r ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg a hefyd yn dangos y diffyg mewn darpariaeth dwyieithog yn un o ganolfan au hamdden y ddinas.

Dywedodd Lewis Roberts aelod o’r criw ieuenctid, “Roedden ni’n hapus ar y nifer helaeth o Gynghorwyr ac Uwch Swyddogion y Cyngor wnaeth droi lan, gobeithio’n nawr eu bod yn fodlon ymateb i’n gofynnion o gynyddu’r darpariaeth ieuenctid Cymraeg yn y ddinas”.

Mae’r grwp wedi galw eu hunain yn “Cychwyn” am eu bod am gael rhywbeth hollol newydd ac maent yn cael cefnogaeth Partneriaeth Pobl Ifanc y Ddinas i ddatblygu eu syniadau.

Y gobaith nawr yw y bydd cynghorwyr y ddinas yn ymateb i’w cais ac yn cynnig gwel gwasanaeth ieuenctid trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd criw Cychwyn yn cwrdd yn fuan yn y flwyddyn newydd i drafod ymhellach.

 

Byron Davies, Prif Weithredwr Cyngor Caerdydd yn trafod gyda rhai o aelodau y grwp Cychwyn ynglyn â’r cyflwyniad.

Criw Cychwyn ar y rhaglen
Ffeil ar 16 Tachwedd
<<< Blaenorol - Nesaf >>>

<<< - >>>

 

Adroddiad Cychwyn i ehangu darpariaeth Cymraeg

Nôl yn mis Tachwedd 2004 sefydlwyd y grwp ‘Cychwyn’. Mae’r grwp yn gynrychiolaeth o bartneriaid sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghaerdydd gan gynnwys Menter Iaith Caerdydd, Urdd Gobaith Cymru, Mudiad Ysgolion Meithrin, Ysgolion Cynradd ac Uwchradd y Sir a Swyddog Iaith Cyngor Sir Caerdydd. Pwrpas tymor byr y grwp oedd cael dealltwriaeth gwell o’r ddarpariaeth sydd ar gael i blant a phobl ifanc drwy’r Gymraeg yng Nghaerdydd ac yna adnabod yr anghenion a chwilio am ffynonellau arian i ateb y galw.

Buom yn llwyddiannus i dderbyn cyllid o bron i £5000 gan Gyngor Sir Caerdydd i wneud yr ymchwil. Rhan bwysig iawn o’r gwaith oedd yr ymgynghoriad cyson â gafwyd gyda’r plant a phobl ifanc drwy ymweliadau i Gynlluniau Chwarae, ysgolion, gweithleoedd, Cylchoedd Meithrin a hefyd diwrnod o ymghynghoriad yng Nghanolfan yr Urdd, Bae Caerdydd.


Mae’r ymateb wedi bod yn galonogol dros ben a rhaid pwysleisio mae llais y plant a’r phobl ifanc yw cynnwys yr adroddiad hwn. Maent yn awyddus i weld mwy o ddarpariaeth Cymraeg ar eu cyfer tu allan i oriau ysgol/gwaith. Er mwyn ymateb i’r galw, rhaid edrych i fuddsoddi mewn staff, adnoddau a lleoliadau i gynnal y gweithgareddau ar eu cyfer.


Y cam nesa fydd cyflwyno’r adroddiad hwn i Gyngor Caerdydd a pharhau i gynnal ymghynghoriadau gyda’r criw dethol sydd wedi ein cynorthwyo hyd yn hyn.


Gellir darllen yr adroddiad wrth ddewis Swyddogion o'r dewislen chwith ac mae dewis ar waelod y dudalen.

 

 

Fidio o ddiwrnod yr ymgynghoriad

Linc i'r fideo >
Ffilm


YMGYNGHORIAD CYCHWYN -
YMATEBION POBL IFANC

Topig un: beth sy’n dda am fod yn Gymro/Gymraes G/Cymraeg ifanc yng Nghaerdydd

* mwy o opsiynau;
* dwyieithog;
* iaith wahanol;
* addysg dda;
* rhwybeth i roi ar eich CV;
* gallwch siarad iaith dyw llawer o bobl ddim yn gwybod;
* manteision pan rydych chi’n hyn;
* profi pobl o ardaloedd eraill o Gymru sy’n honni yn anghywir nad oes gwir Gymreictod i gael yng Nghaerdydd;
* siarad tu ôl i gefnau pobl Saesneg;
* iaith unigryw;
* mae’n bosibl i bitsio heb i bobl ddeall;
* gallu siarad am bobl pan rydych yn chwarae yn eu herbyn heb eu bod yn deall.


Topig dau: beth sy’n ddrwg am fod yn Gymro/Gymraes G/Cymraeg ifanc yng Nghaerdydd

* pobl yn cymryd y mic;
* gormod o ysgolion saesneg;
* diffyg parch o ysgolion eraill;
* dim digon o lefydd Cymraeg i fynd iddynt;
* pobl yn meddwl eich bod chi’n od;
* cael eich cysylltu efo defaid;
* mae pobl yn gallu troi rownd a siarad Cymraeg ar ol i chi fitsio;
* ddim yn gwybod termau mewn gwyddoniaeth;
* abuse gan yrwyr bws sy’n cwyno am siaradwyr Cymraeg ifanc;
* pobl yn meddwl eich bod yn hoyw.


Topig tri: beth ddylai’r Bwrdd Iaith wneud?

* mwy o bethau i wneud tu fas i’r ysgol;
* dydyn ni ddim yn gwybod pwy ydych chi;
* cynnal mwy o weithgarwch addas – mwy o amrywiaeth;
* gwneud rhaglenni llawer yn well;
* cynnal mwy o weithgareddau Cymraeg tu allan i’r ysgol;
* angen mwy o wasanaethau Cymraeg a staff dwyieithog;
* trefnu tripiau i lefydd fel Llundain;
* mwy o arian i gael staff;
* mwy o staff fel Sian.

 

Topig pedwar: beth yw eich neges i Bartneriaeth Pobl Ifanc

* siaradwch Gymraeg;
* cymerwch fwy o sylw o’r iaith a helpwch ei hybu yng Nghaerdydd;
* pwy yn nhw*
* ni’n bwysig felly cymrwch sylw ohonon ni;
* gwnewch y mwyaf o’r Gymraeg.

Topig pump: beth hoffech chi ddweud wrth yr Urdd

* mae’n rhaid i’r Urdd wrando arnon ni a gwrando ar beth sy gennym i ddweud;
* defnyddio arian aelodaeth yn ddoethach;
* help;
* efallai dylid trefnu mwy o dripiau i bobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg;
* newid pethau – dim ffafrio côr a parti bechgyn – gwneud pethau cwl;
* dydy cerddoriaeth Gymraeg ddim yn cwl heddi;
* angen mwy i wneud;
* cael mwy o weithgareddau;
* dydy tripiau i Heatherton, Aquadome, bowlio deg a Macdonalds ddim yn cwl;
* pethau rydych yn gwneud/trefnu yn anaddas i bobl ein hoed ni;
* fe wnaeth clwb pêl droed yr Urdd newid y tîm o Gymraeg i Saesneg trwy gael rheolwr Saesneg a dod â chwaraewyr Saesneg;
* Urdd ddim yn cwl – mae’n iawn i blant ifancach – rhai dros 14 yn syrffedu;
* gwneud rhywbeth heblaw yr Eisteddfod.


Topig chwech: beth yw’r ffordd orau o roi gwybod i chi am beth sy ymlaen

* anfon llythyrau drwy’r post;
* cyhoeddiadau yn yr ysgol;
* e bost;
* dweud wrth athrawon yr ysgol neu gael pobl i ddod i siarad a ni;
* llythyrau i’r ysgol;
* llythyrau drwy’r Cardiff Post;
* posteri o gwmpas yr ysgol;


Blaenoriaethau

1. cael canolfan;
2. mwy o weithgareddau tu allan i’r ysgol ac mewn clybiau ieuenctid;
3. mudiadau presennol yn cynnig mwy.

 

Hoffech chi wybod mwy? Ewch i >>
Menter Caerdydd
Ty Avocet
88 Heol yr Orsaf
Ystum Taf
Caerdydd
CF14 2FG
029 20565658
 Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Sir Caerdydd

Menter Caerdydd - Elusen gofrestredig rhif: 1098606 Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant rhif: 4576565

Eglwys Newydd Sblot Rhiwbeina Trefynach Mynydd Bychan Creigiau Trelai Llandaf Tyllgoed Rhymni Penylan Pontcanna Cathays Y Rhath Gabalfa Gwaelod y Garth Tongwynlais
Pentyrch Y Bae Llaneirwg Treganna Llysfaen Radyr Pentrepoeth Rhydlafar Pentwyn Cyncoed Pontprennau