| SUT GALL DEFNYDDIO’R GYMRAEG HELPU EICH BUSNES? Y mae statws cynyddol yr iaith Gymraeg yn chwarae rhan bwysig yn y bywiogrwydd sydd i’w deimlo yng Nghymru. Y mae rôl i ddwyieithrwydd gweledol ar draws dinas Caerdydd, yn enwedig mewn byd busnes. Yn gynyddol mae busnesau o bob maint yn defnyddio'r iaith Gymraeg i ychwanegu gwerth i'w cynnyrch a gwella'u gwasanaethau i gwsmeriaid. Mae'n hiaith, ein diwylliant a'n treftadaeth yn cael eu cydnabod yn eang fel pwyntiau gwerthu unigryw. . Mae defnyddio’r iaith yn dangos yn glir eich bod yn ymfalchïo yn y ffaith eich bod yn gwneud busnes yng Nghymru, a’ch bod yn parchu’r diwylliant a’r gymuned. Mae’n ennyn ewyllys da a theyrngarwch ymhlith cwsmeriaid presennol a phosibl. Mae’n cyfoethogi’r gwasanaeth rydych yn ei ddarpar ac yn dangos gofal am gleintiau. Gall Menter Iaith Caerdydd eich helpu i ddefnyddio'r Gymraeg er mwyn galluogi'ch busnes i ddod yn fwy cystadleuol a llwyddiannus. Gallwn ni gynnig cyngor a chymorth arbenigol yn rhad ac am ddim. Yr ydym yn bodoli er mwyn helpu pobl fel chi! |
LLWYDDIANT GYDA BUSNESAU BUSNESAU LLEOL YN CEFNOGI'R IAITH GYMRAEG Yn gynyddol, mae busnesau bach yng Nghymru yn defnyddio'r Iaith Gymraeg i ychwanegu gwerth i'w cynnyrch a gwella'u gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae'n hiaith, ein diwylliant a'n treftadaeth yn cael eu cydnabod yn eang fel pwyntiau gwerthu unigryw gan gwmnïau o bob math. Caiff ei adnabod fod cynnig gwasanaeth dwyieithog yn ran hanfodol o ddatblygu cysylltiadau â chwsmeriaid a chleientiaid yng Nghymru. Mudiad sydd yn cynnig cyngor a chymorth arbenigol parthed defnyddio'r Iaith Gymraeg yn y sector preifat yw Menter Iaith Caerdydd, mudiad lefel gymunedol gyda'r nod o hybu ac ehangu'r defnydd o'r iaith Gymraeg. Yn ddiweddar mae'r Fenter wedi cysylltu â nifer o fusnesau yn hyrwyddo'r defnydd o'r iaith Gymraeg yn eu busnes, yn pwysleisio pa mor bwysig i fusnes yw mabwysiadu polisïau dwyieithog. Cyflwynwyd pecyn sector preifat yn ogystal â arwydd drws dwyieithog "Ar Agor/Ar Gau". Cafwyd ymateb calonogol iawn gyda nifer yn awyddus iawn i arddangos yr arwydd drws yn ogystal â chyfieithu deunydd eu siop. Hoffwn ddiolch i'r siopau am ddangos cefnogaeth a brwdfrydedd. Os hoffech wybod neu os hoffech dderbyn pecyn ac arwydd, cysylltwch â Swyddog Datblygu Busnes Menter Caerdydd ar 02920565658 neu ebostio cyswllt |
| DATGANIAD YN YR ECHO! |
YR ARWYDD A’R PECYN! Cynnwys y pecyn... >>>>>>> |
CYNNWYS Y PECYN
Cyflwyniad… Pamffled y Fenter…
SIOPAU CEFNOGOL I’R GYMAREG!
CATHAYS
Lorenzas Ristorante Italiano, The Mad Hatters, Café Calcio, Forum Deli, Trianing House, Hoffi Coffi, Zio Pin, La Trattoria Molisana, Mina, Santa Sofia D’anabella, Big Momas Deli a Caffi Take a Break,
Lluniau>>>
Y RHATH
Halcyon Haze, Enfys(Cyfle Cymru), Cyber Center
Lluniau>>>
PONTCANNA A THREGANNA
Pulse Wholefoods, Mead Property Management, Learning Tree, Forecast, The Frame Shop, Smith and Teague Engraves, Costa Rica, The Dry Cleaners, Dricollis, Fruit Bowl, Hot Pantri, Pontcanna News, Barkways Florist, Shelleys Delicatessen a Roger Williams Jewellry Studio, Caffi Patagonia, Tuck Inn ac Oblong.
Lluniau>>>
CANOL Y DREF
Church Street- Topo Gigios, Postinos, Internet Exchange, Truffles, Browns a Booksales. Europa & Castle Welsh Craffts yn Stryd y Castell, Things Welsh (Duke Street Arcade), Pulcinella (Park Lane), Le Café Francais, The Rugby Shop ac Howell Petersen.
Lluniau >>>
ARDAL CAERDYDD
Oriel Washington (Penarth), Siop Lyfrau Windsor (Penarth), Playtime Palace, Field Way (Heol Maes y Coed), Davies Colour Ltd ac Olive Branch (Rhiwbeina).
Lluniau >>>
YSTUM TAF
Mega Munch, Easy Life Mobility, Thornes, Delason Unisex, Llandaf North Travel, Filling Station, Dortek Nationwide Ltd, Pioneer Printing, Beppy’s a Shellings.
Lluniau >>>
EGLWYS NEWYDD
La Petite, Sports Mad, Roger Walters, Lazarou Brothers, Whitsons, Birds Fish Market, Birds, Tanners, R & C Evans, Siop y Felin, Village Barber, Park Fruit Supply, Martin Player Butcher, Euphoria/Gorawen, Bar Brechdan Ozzys, Ophthalmic Opticians
Lluniau >>>
TREGANNA/ PONTCANNA
Caffi Tuck In Caffi Patagonia
Shelleys Delicatessen Barkways Florist
CANOL Y DREF
Siop Rygbi Siop Grefftau’r Castell
YSTUM TAF
Mega Munch Thorne’s Florist
EGLWYS NEWYDD
Birds- Siop Ffrwythau La Petite Caffi Coopers
Bar Brechdan Ozzys Ophthalmic Opticians
CATHAYS
Lorenzas (Crwys Road). Hoffi Coffi (Woodville Road)
Forum Deli (Crwys Road) Santa Sofia (Crwys Road) Caffi Calcio (Crwys Road)
Y RHATH
Halcyon Daze Le Mina Juice Bar La Trattoria Molissana
(Wellfiled Road) (Albany Road) (Albany Road)
Enfys (Albany Road)
LINCIAU DEFNYDDIOL BYD BUSNES…
Nod ac amcan Cwlwm Busnes Caerdydd a’r Cylch,
sef cymdeithas o bobl busnes Caerdydd a’r cyffiniau yw codi proffil
y Gymraeg ym myd busnes yn y Brifddinas a De-Ddwyrain Cymru a
rhoi cyfle i Gymry Cymraeg sydd mewn busnes o bob math i gyfarfod
ac i drafod materion yn ymwneud â busnes trwy gyfrwng y Gymraeg.
Y mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb ym myd busnes i
ymuno â Chwlwm Busnes Caerdydd a’r Cylch.
Croesewir aelodau unigol ac y mae telerau arbennig ar gyfer aelodaeth gorfforaethol i gwmniau.
Cwmni datblygu economaidd yw Menter a Busnes, a sefydlwyd yn 1989, sy’n ceisio datblygu menter yn ei ystyr ehangach, a busnes yn benodol, fel rhan o'r iaith a'r diwylliant Cymraeg.
Cliciwch ar y linc>>>www.opportunitywales.co.uk
Cliciwch ar y linc>>>www.financewales.co.uk
Cliciwch ar y linc>>>www.cardiffchamber.co.uk/cym
Cliciwch ar y linc>>>www.wda.co.uk
Cliciwch ar y linc>>>www.ffatrifenter.com
