GRWP CYCHWYN CAERDYDD








Y DEFNYDD CYMDEITHASOL O’R GYMRAEG GAN BLANT A PHOBL IFANC YN ARDALOEDD CYMUNEDAU’N GYNTAF CAERDYDD

Astudiaeth a noddwyd gan Grant Cymorth


Adroddiad a gyflwynwyd i Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc Caerdydd Ebrill 2005








1.
Cyflwyniad

Dengys Cyfrifiad 2001 fod nifer y bobl ifanc sy’n siarad Cymraeg yn cyfrif am dros un rhan o dair holl siaradwyr Cymraeg – 37.4% ymhlith grwp oedran 5-19, 37.7% yn y grwp oed 3-15 oed.
Dyna pam mae’r Cynulliad yn nodi bod pobl ifanc yn bwysig i ddyfodol yr iaith:

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn ymwybodol iawn, os yw’r Gymraeg yn mynd i ffynnu, fod angen i bobl ifanc yn enwedig ddatblygu ymdeimlad o berchnogaeth o’r iaith a’i gweld fel eu hiaith hwy ac nid iaith yr ysgol a diwylliant yn unig. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio i sicrhau ein bod ni’n cynnig cymaint o gyfleoedd â phosibl i’n pobl ifanc a rhai yn eu harddegau i ddefnyddio’r iaith mewn sefyllfaoedd hamdden a chymdeithasol bob dydd. (Iaith Pawb)

Mae Iaith Pawb, sef Cynllun Gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer Cymru ddwyieithog yn tynnu sylw at brif bolisïau’r Cynulliad drwy nodi:

Mae strategaeth Plant a Phobl Ifanc Llywodraeth y Cynulliad, Fframwaith ar gyfer Partneriaeth, yn seiliedig ar Gytundeb Hawliau’r Plentyn y Cenhedloedd Unedig. Rydym wedi sefydlu Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc Lleol ym mhob ardal awdurdod lleol i gynllunio a chyflenwi gwasanaethau i bobl ifanc rhwng 11-25 oed. Bydd y Partneriaethau yn llunio cynlluniau Fframwaith y bydd angen iddynt gydnabod pwysigrwydd diwylliant a’r iaith Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau lleol ac wrth gynllunio a datblygu gwasanaethau.

Dangosir sut mae hybu darpariaeth effeithiol drwy ddogfennau a gyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad megis Ymestyn Hawliau a’r Fframwaith Plant a Phobl Ifanc sy’n sail i’r partneriaethau newydd. Ceir sylw i’r Gymraeg mewn elfennau’r Fframwaith sef:

·Cychwyn bywyd yn dda;
·Ystod gynhwysfawr o gyfleoedd addysg, hyfforddiant a dysgu;
·Yr iechyd gorau posibl, rhyddid oddi wrth gamdriniaeth, erledigaeth a chamfanteisio;
·Mynediad at weithgareddau chwarae, hamdden, chwaraeon a diwylliant;
·Plant a Phobl Ifanc yn cael eu parchu a’u hil a’u hunaniaeth ddiwylliannol yn cael eu cydnabod;
·Cartref a chymuned ddiogel sy’n cefnogi lles corfforol ac emosiynol;
·Plant a phobl ifanc ddim dan anfantais oherwydd tlodi.

Cyhoeddwyd Plant a Phobl Ifanc: Gweithredu’r Hawliau ym mis Chwefror 2002. Dogfen yw hon sy’n cloriannu’r prif ddatblygiadau ac yn argymhell rhai mesurau newydd megis Cyfarwyddwr Arweiniol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc. Gesyd hefyd awgrymiadau ar gyfer gweithredu a mesur cynnydd ac effaith darpariaeth i blant a phobl ifanc. Rhoddir tipyn o sylw yn y ddogfen hon at hawl plentyn a pherson ifanc i ddefnyddio ei ddewis iaith.

Gwelodd Caerdydd y cynnydd mwyaf mewn siaradwyr Cymraeg yn holl awdurdodau lleol Cymru yn ôl cyfrifiad 2001. Rhwng 1991 a 2001, cododd canran y rhai y mae ganddynt ryw wybodaeth o’r Gymraeg o 10.6% i 16.3%. Tarddodd llawer o’r cynnydd hwn o’r twf mewn addysg gyfrwng Cymraeg, gyda 5100 o ddisgyblion yn mynychu addysg gyfrwng Cymraeg ar draws y ddinas. Yn ychwnaegol, dysgir Cymraeg fel ail iaith ym mhob ysgol arall yng Nghaerdydd.

Gwelwyd cynnydd hefyd yn nifer siaradwyr Cymraeg a’r rhai sy’n dysgu Cymraeg yn ardaloedd Cymorth (cronfa unedig plant a phobl ifanc Llywodraeth Cynulliad Cymru). Mae gan Lan yr Afon, er enghraiff, 16.9% o’i boblogaeth sy’n siaradwyr Cymraeg ac ychydig dros 14% yn ardaloedd Adamsdown a Trowbridge. Mae Ysgol Gyfun Plasmawr yn cymryd o gwmpas dwy ran o dair o’i disgyblion o ardaloedd Trelai, Caerau, Pentrebaen, Trefynach a Threbiwt, Glanyrafon a Threganna. Mae Ysgol Gyfun Glantaf yn tynnu o gwmpas un rhan o bump o’i disgyblion o ardaloedd Adamsdown, Trowbridge, Llanrhymni a Sblott.

Er bod cryn dipyn o weithgarwch pwrpasol ar gael gan Fenter Caerdydd ac Urdd Gobaith Cymru, ysgolion cyfrwng Cymraeg a Mudiad Ysgolion Meithrin i greu cyfleon i blant a phobl ifanc gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg, nid oes gan y mudiadau hyn adnoddau parod i ymchwilio i anghenion, profiadau a barn plant a phobl ifanc sy’n siaradwyr Cymraeg a rhai sy’n dysgu Cymraeg yn yr ardaloedd hyn. Cyflwynwyd, felly, cais i Bartneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc Caerdydd gan Grwp Cychwyn, sef partneriaeth o fudiadau Cymraeg ac ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ail iaith, er mwyn cynnal ymgynghoriad i anghenion plant a phobl ifanc o ran cael cyfle i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghaerdydd. Bu’r cais hwn yn llwyddiannus ac un o ganlyniadau’r ymgynghoriad yw’r adroddiad hwn.


2.
Natur yr Ymgynghoriad

Penderfynwyd ei bod yn hanfodol bwysig bod yr ymgynghoriad yn cynnwys modd i blant a phobl ifanc o gyd-destunau amrywiol gynnig eu profiadau a’u barn. Yn achos plant ifanc grwpiau Mudiad Ysgolion Meithrin casglwyd barn rhieni hefyd. Cynhaliwyd yr ymarfer ymgynghori mewn dwy ran:

Rhan 1: Grwpiau ffocws mewn ysgolion a sefydliadau perthnasol fel a ganlyn:



Lleoliad
Nifer a holwyd
Meithrinfa Miri Mawr
6 o staff
Cynllun Chwarae Menter Caerdydd – Y Berllan Deg
10
Cynllun Chwarae Menter Caerdydd – Ysgol Treganna
10
Cylch Meithrin Caerau
5 oedolyn
Cylch Ti a Fi Treganna
7 oedolyn
Ysgol Coed y Gof
6
Ysgol Berllan Deg
10
Ysgol Glantaf
10
Ysgol Plasmawr
10
Ysgol Fitzalan
20
Cyfanswm
94
Roedd y mwyafrif (tua 91%) o’r plant a phobl ifanc yn dod o ardaloedd Cymorth.

Yn ystod y sesiynau trafod hyn, gofynnwyd i’r plant a phobl ifanc nodi ym mha sefyllfaoedd yr oeddynt fwyaf tebygol o ddefnyddio Cymraeg neu Saesneg neu gyfuniad o’r ddwy iaith. Yn Ysgol Fitzalan, canolbwyntiwyd ar archwilio faint o gyswllt a gâi’r bobl ifanc hyn â’r Gymraeg y tu allan i’r ysgol a beth fyddai’n gymorth iddynt wneud mwy o ddefnydd o’r iaith.

Cyflogwyd ymchwilydd proffesiynol i gynnal y gwaith ymgynghori ym mhob sefyllfa ar wahân i’r cylchoedd meithrin.



Rhan 2: Fforwm Hanner diwrnod yng Ngwersyll yr Urdd, Canolfan y Mileniwm, Caerdydd Mawrth 18

Gwahoddwyd ysgolion cyfrwng cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg Caerdydd i ddanfon chwe chynrychiolydd i fforwm ymgynghori yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd. Daeth rhyw 36 o blant a phobl ifanc ynghyd o bum ysgol ar y diwrnod. Trafodwyd y cyfleon a’r rhwystrau a geir wrth ddefnyddio’r Gymraeg i gymdeithasu ymhlith ei gilydd. Yna trafodwyd hawliau plant wrth ystyried Confensiwn Hawliau Plant y Cenhedloedd Unedig. Ar ddiwedd y fforwm, penderfynwyd sefydlu panel pobl ifanc o gynrychiolwyr Blwyddyn 10 Ysgolion Plasmawr a Glantaf i fel pwyllgor rheoli prosiect creu mwy o gyfleon i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol. Nodwyd, hefyd, bod fforwm trafod wedi’i chreu ar wefan ysgolion Caerdydd.

3.Canlyniadau’r Ymgynghoriad

Byddai’r rhan fwyaf o’r rhai a holwyd yn dymuno gwneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg yn gymdeithasol. Serch hynny, nodwyd nad oedd digon o gyfleoedd i gymdeithasu’n Gymraeg yng Nghaerdydd. Credwyd, beth bynnag, y gellid newid y sefyllfa’n raddol drwy benodi mwy o hyfforddwyr chwaraeon/celfyddydau perfformio neu weithwyr ieuenctid a staff canofannau hamdden a oedd yn siarad Cymraeg. Hefyd, byddai creu canolfan bwrpasol aml-ddefnydd lle cynhelid amrywiaeth o weithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig.

Nodir rhai o’r prif bwyntiau a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad.

Staff Meithrinfa Miri Mawr
Roedd pob un o’r chwech a holwyd wedi mynychu ysgol uwchradd Gymraeg. Eu hoedrannau oedd rhwng 18 ac 22 a phob un ond un wedi dilyn cwrs blynyddoedd cynnar arbenigiol. Gwelodd pawb newid yn eu patrwm dewis iaith pan roeddynt tua 14 ar wahân i un weithwraig a ddeuai o ogledd Cymru ac roedd wedi derbyn addysg prifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg. Ar yr adeg hon, daethant yn fwy annibynnol a dechrau cymysgu gyda ffrindiau nad oeddynt yn mynd i’r un ysgol, ac felly ddim yn siarad Cymraeg. O’r fan honno, lleihawyd eu defnydd o’r Gymraeg yn gymdeithasol. Dywedwyd y byddai canolfan hwylus wedi bod yn atyniad yn ystod y cyfnod hwnnw i wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg. Nodwyd nad oedd llawer i wneud yn Gymraeg ar yr adeg honno.

‘Byddai cael canolfan wedi bod o help.. i wneud mwy o ffrindiau ..byddai hwnnw’n apelio ata i ..angen cael adeilad sy’n groesawgar gyda lot yn digwydd..

Erbyn hyn, dim ond gyda chriw gwaith y cafwyd cyfle i gymdeithasu’n Gymraeg ar wahân i’r un eithriad a oedd yn mwynhau bywyd cymdeithasol cyfangwbl yn Gymraeg. Byddent yn hoffi defnyddio mwy o Gymraeg tu allan i’r gwaith ond byddai angen i unrhyw ddarpariaeth Gymraeg fod yn gyfoes, cyffrous a chystal â’r hyn a geir yn Saesneg.

Rhieni Cylch Meithrin a Chylch Ti a Fi
Trafodwyd gyda dau grwp o rieni. Roeddynt wedi dewis mynd â’u plant i’r sefyllfaoedd hyn am y rhesymau canlynol

§
Cyfle i gael cymysgu a phlant a rhieni sy’n siarad Cymraeg
§
Cyfle i fy merch glywed yr iaith yn cael ei siarad tu allan i’r cartref
§
Rhoi hyder i fy merch i gymysgu a chwarae yn ei iaith gyntaf(Cymraeg)
§
Cael awyrgylch Gymraeg yn lle Saesneg sydd i’w glywed ym mhob man
§
I’r mab gael chwarae a Cymysgu a phlant Cymraeg
§
I ganu yn y Gymraeg
§
I gael gwybodaeth o beth sy’n mynd ymlaen o gwmpas yng Nghaerdydd
§
I gyfarfod â rhieni eraill
§
Dod i nabod plant o’r un oed bydd yn mynd i’r un Ysgol
§
Cyfle i adael y ty
§
Coffi a sgwrs hefo mamau eraill;
§
Gwella sgiliau cymdeithasol y plant;
§
Clywed a siarad Cymraeg tra yn chwarae;
§
Rhoi cychwyn bywyd da i’w plant;
§
Gobaith am well swyddi

Roedd y ddau grwp hyn yn ymwybodol o ddiffygion cyfleon i’w plant ddilyn gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg a hoffent weld y canlynol yn digwydd yn Gymraeg:

§
Gwersi cerdd/offerynnol
§
Cyfle i chwarae yn y parc;
§
Gwersi Nofio
§
Modd i ddefnyddio’r llyfrgell
§
Dawnsio
§
Gwibdeithiau
§
Canolfannau hamdden – Playtime palace
§
Jazzy jungle
§
Café
§
Creche yn Tesco Extra a Canolfan ddysgu Severn Rd.
§
Gwersi coginio Cymraeg
§
Chwarae yn gyffredinol
§
Diwrnodau hwyl
§
Clwb crefftiau/Celf
§
Ymwelydd Iechyd / Therapi Iaith
§
Gweithgareddau ymarfer corff
§
Creche

Credent y byddai’n bosibl cynnig llawer o’r gweithgareddau hyn dan un to mewn adeilad pwrpasol.

Plant ysgolion cynradd a’r cynlluniau chwarae
Gofynnwyd i blant ysgolion cynradd a’r cynlluniau chwarae a drefnir gan Fenter Caerdydd nodi’r pethau roeddynt yn eu gwneud yn Saesneg ac wedyn y gweithgareddau cyfrwng Cymraeg. Ymhob achos, gwelwyd bod y nifer o weithgareddau cyfrwng Saesneg yn fwy na’r rhai Cymraeg. Gwelir yma rai enghreifftiau a nodwyd:



Gweithgareddau cyfrwng Cymraeg
Gweithgareddau cyfrwng Saesneg
Yn yr ysgol
Chwarae ar y cyfrifiadur
Pêl rwyd
Mynd ar y wê
Dawnsio
Chwarae ar y stryd
Gyda fy mrawd
Chwarae gyda ffrindiau
Gyd ffrindiau o’r ysgol
Yn y sinema
Chwarae pêl droed
Gweld fy nheulu
Mynd i nofio
Mynd i’r dref
Siopa
Ar y Playstation
Brownies
Dysgu arlunio
Gellid gweld bod modd gwneud llawer mwy drwy gyfrwng y Saesneg. Awgrymwyd y gellid gwella pethau gyda chael mwy o weithwyr mudiadau fel Brownies oedd yn gallu siarad Cymraeg a hefyd gweithwyr canolfannau hamdden a phyllau nofio. Hefyd, gwnaed apêl gan y plant am fwy o wefannau cyfrwng Cymraeg a gemau ar gyfer Playstation.

Gyda’r plant hyn, ar wahân i dri mewn un cynllun chwarae, byddent yn hoffi gwneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg tu allan i’r ysgol. Roedd y mwyafrif, hefyd, yn falch eu bod yn siarad Cymraeg ac yn awyddus i weld y Gymraeg yn fwy amlwg yn y ddinas.

Pobl ifanc ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg
Holwyd dau grwp Blwyddyn 10 o’r ddwy ysgol uwchradd Gymraeg am eu defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg a beth fyddai’n eu galluogi i wneud mewy o ddefnydd o’r iaith y tu allan i’r ysgol. Yn yr ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg gyntaf, defnyddiwyd y ffurflen ganlynol er mwyn galluogi’r bobl ifanc i archwilio eu defnydd o’r Gymraeg a’r Saesneg. Allan o 12 ymateb mewn un ysgol, cafwyd y canlyniadau hyn.


Gweithgaredd
Nifer y nodi drwy gyfrwng y
Cymraeg
Nifer y nodi drwy gyfrwng y
Saesneg
Nifer y nodi drwy gyfrwng y
Cymraeg/Saesneg
Nifer y nodi ei bod yn
bosibl newid iaith
Txto
2
7
2
2
Mynd ar MSN
2
6
1
Siarad gyda ffrindiau ar y ffôn
1
5
6
2
Mynd i gig
1
8
1
2
Siopa
3
5
4
2
Mynd am bryd o fwyd
4
5
3
1
Gwylio gêm
5
2
5
Mynd i’r sinema
3
5
4
1
Siarad gyda’r teulu
5
1
5
1
Mynd i’r capel/eglwys
7
1
3
Canolfan hamdden
1
2
9
Hongian o gwmpas gyda ffrindiau
1
4
7
Cyfanswm
35
49
50
11
Roedd y gan fwyafrif y grwp hwn o leia un o’u rhieni a allai siarad rhywfaint o Gymraeg fel y gwelir yn lefel y defnydd o’r Gymraeg gyda’r teulu. Serch hynny, mae lefel eu defnydd o’r Gymraeg tu allan i gylch teuluol yn is na’r defnydd cyson o Saesneg. Gwelir hefyd bod y defnydd o’r ddwy iaith yn uwch byth. Gwelir y defnydd o’r Gymraeg ar ei uchaf gyda mynychu capel/eglwys a gweithgareddau a gysylltir â’r ysgol fel gwylio gêm a defnyddio’r ganolfan hamdden fel rhan o wersi’r ysgol. Dim ond un a ddefnyddiai’r Gymraeg yn gyson ar y ffôn gyda ffrindiau, dau oedd yn danfon neges destun drwy’r Gymraeg a mynd ar MSN. Gweithgarwch cyfrwng Saesneg oedd mynd i gig i bron hanner gyda’r hanner arall yn teimlo mai drwy gyfrwng y ddwy iaith y gwneir hyn. Ychydig o’r grwp hwn a deimlai ei bod yn bosibl newid cyfrwng y gweithgareddau hyn gan synio bod patrwm defnydd iaith wedi’i sefydlu ymhlith y criw hwn erbyn hyn. Serch hynny, roeddynt am wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg, roeddynt yn falch eu bod yn siarad yr iaith, a chredent y byddai mwy o gyfleusterau neilltuol yn help i atgyfnerthu eu defnydd o’r Gymraeg yn gymdeithasol.

Yn yr ysgol uwchradd Gymraeg arall, gofynnwyd i’r bobl ifanc nodi pa weithgareddau y gallent wneud yn Gymraeg yn hawdd a pha weithgareddau roedd yn anodd eu gwneud yn Gymraeg. Dim ond gan leiafrif o’r grwp hwn roedd rieni a allai siarad Cymraeg.

Ymhlith y pethau anodd eu gwneud yn Gymraeg oedd:

§mynd allan gyda ffrindiau i’r dref, neu i gael coffi neu i’r sinema;
§chwarae badminton neu rywbeth tebyg;
§mynd i gym;
§defnyddio MSN;
§gwrando ar gerddoriaeth;
§cael unrhyw fath o ddiddordeb tu fas i’r ysgol yn Gymraeg;
§danfon neges destun;
§chwarae pêl droed gan ei bod yn anodd cael hyfforddwr Cymraeg;
§chwarae ar Playstation 2;

Credai’r grwp y gallai newid cyfrwng iaith y gweithgareddau hyn:

§mynd i’r gym a hyfforddiant circuits drwy gael hyfforddwr;
§tynnu sylw at beth sy’n digwydd yn barod;
§chwarae pêl droed drwy fynnu bod yr hyfforddwr yn siarad Cymraeg;
§mynd i’r dref i siopa drwy gael mwy o weithwyr oedd yn siarad Cymraeg;
§agor clwb i gwrdd ag anghenion pobl ifanc sy’n siaradwyr Cymraeg.

Eto, gyda’r grwp hwn, dangoswyd bod cryn rwystrau i gael yn ffordd pobl ifanc sydd am gymdeithasu yn Gymraeg. Nid yw’r gweithgareddau y maent yn eu chwennych ar gael yn gyfleus yn Gymraeg. Serch hynny, dangosent awydd am wneud mwy yn Gymraeg a chredent fod modd goresgyn y rhwystrau presennol hyn drwy benodi mwy o staff dwyieithog, codi ymwybyddiaeth o beth sydd ar gael yn barod a hefyd creu canofan bwrpsasol ar gyfer gweithgareddau amrywiol drwy gyfrwng y Gymraeg yn ganolog yng Nghaerdydd.

Pobl Ifanc Ysgol Uwchradd Cyfrwng Saesneg
Gofynnwyd i’r 23 o Flwyddyn 10 oedd yn dysgu Cymraeg Ail Iaith i TGAU ble roeddynt yn cael cysylltiad â’r Gymraeg drwy lenwi ffurflen bwrpasol. Dyma’r hyn a gofnodwyd:



Gweithgaredd
Unrhyw gysylltiad â’r Gymraeg
Ysgol
23
Ar y teledu
23
Ar eich cyfrifiadur
7
Gyda ffrindiau
5
Mynd i gig
3
Siopa
15
O gwmpas y dre yn gyffredinol
17
Mynd allan i leoedd eraill
6
Gyda’ch teulu
7
Eglwys/capel/mosque
2
Unrhyw glwb neu ganolfan
6
Roeddynt yn ymwybodol o ddefnydd o’r Gymraeg o’r teledu ac mewn arwyddion ar hyd y ddinas. Roedd rhai yn ymwybodol o fandiau Cymraeg ac wedi bod yng Nghlwb Ifor Bach. Caed nifer yn eu teuluoedd oedd yn meddu ar rywfaint o Gymraeg neu yn dysgu’r iaith. Meddai un,

‘My family should have learnt more Welsh as youngsters’

Nododd rhai eu bod yn ffrindiau gyda rhai sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg a bod hyn yn help iddynt o ran defnyddio eu Cymraeg.

Roedd y mwyafrif yn falch o’u gallu yn y Gymraeg ac yn awyddus i ddod yn rhugl. Roeddynt am weld mwy o ddefnydd o’r Gymraeg yn enwedig ar y wê a chyfleusterau arbennig rai sy’n dysgu Cymraeg yn y dref fel gwê-gaffi. Hoffent weld mwy o hysbysebion Cymraeg . Byddai rhai am weld y Gymraeg yn fwy amlwg mewn siopau.

Y Fforwm
Cynhaliwyd fforwm gyda 36 o blant a phobl ifanc yn bresennol ar Fawrth 18. Atgyfnerthwyd y negeseuon a gyflwynwyd eisoes gan y fforwm. Teimlai’r rhai a oedd yno bod modd y defnydd presennol o’r Gymraeg yn gymdeithasol yn gyfyng oherwydd diffyg cyfleusterau addas. Credid y gellid gwella’r sefyllfa hon a chaed nifer o awgrymiadau ynglyn â phenodi mwy o staff dwyieithog a chreu canolfan bwrpasol a fyddai’n gallu diwallu’r anghenion hyn. Talwyd sylw i hawliau plant a nodwyd bod y gallu i ddefnyddio eich iaith frodorol yn hawl sylfaenol.

Ar sail y trafod hyn a’r sylweddoliad bod angen newid y sefyllfa, penderfynwyd penodi panel. Cytunwyd y byddai cynrychiolwyr o Flwyddyn 10 Ysgol Gyfun Plasmawr ac Ysgol Gyfun Glantaf yn gweithredu fel panel rheoli prosiect i archwilio’r ffordd ymlaen. Etholwyd cynrychiolwyr o’r ysgolion eraill a bydd y panel yn cysylltu â’r rhain am eu syniadau.

Penderfynwyd hefyd y dylid ysgrifennu at Bartneriaeth Pobl Ifanc Caerdydd gan nodi’r diffyg cyfleon sydd i ddefnyddio’r Gymraeg tu allan i’r ysgol ac i ofyn i’r Bartneriaeth ystyried sut y gallent gyfrannu i wella’r sefyllfa hon.

4.Casgliadau

Roedd y mwyafrif o’r plant a phobl ifanc yn falch o’r ffaith eu bod yn siarad neu’n dysgu Cymraeg;

Roedd y rhieni a holwyd yn gweld manteision darpariaeth gyfrwng Cymraeg ond bod gweithgareddau pwrpasol i blant blynyddoedd cynnar drwy’r Gymraeg yn brin.

Roedd y mwyafrif o’r plant a phobl ifanc am wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg yn gymdeithasol.

Nid yw’n hawdd i wneud blant a phobl ifanc gymdeithasu’n Gymraeg tu allan i’r ysgol. Yn gyffredinol, gwnaed llawer llai o ddefnydd o’r Gymraeg yn gymdeithasol nag o Saesneg.

Nodwyd bod nifer o ffactorau yn erbyn defnydd o’r Gymraeg yn gymdeithasol gan gynnwys diffyg cyfleusterau, dim digon o staff dwyieithog cymwys a dim lleoliad addas i gynnal gweithgareddau ac i greu cyrchfan cymdeithasol;

Credwyd y gellid gwella’r sefyllfa drwy weld mwy o staff cymwys yn cael eu penodi ac yn sgîl hynny, mwy o weithgarwch cyfrwng Cymraeg yn cael ei drefnu. Dylid hefyd wneud mwy o ddefnydd o’r hyn sydd ar gael eisoes a dylid defnyddio amrywiol ffyrdd o hysbysu plant a phobl ifanc o’r ddarpariaeth bresennol. Byddai creu canolfan addas, deniadol yn help i hybu defnydd cymdeithasol o’r iaith.

Mae angen talu sylw arbennig i’r oedran pan ddaw pobl ifanc yn fwy annibynnol ac yn gallu gwneud mwy o ddewisiadau o ran eu bywyd cymdeithasol.

Roedd angen i’r Bartneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc a’r ddwy Bartneriaeth arall gymryd sylw o’r canfyddiadau hyn a nodi beth allent ei wneud i wella’r sefyllfa.

Roedd penodi panel o bobl ifanc yn hanfodol i sicrhau cynllunio effeithiol o ran ehangu darpariaeth.


5.
Argymhellion

Mae angen codi ymwybyddiaeth o’r cyfyngder sydd ar blant a phobl ifanc o ran defnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol. Bydd angen pwyso ar y partneriaethau perthnasol i gymryd sylw o’r canfyddiadau hyn. Dylent drafod gyda’r mudiadau presennol sy’n ceisio darparu gweithgarwch cymdeithasol cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd.

Mae’n bwysig talu sylw i’r cyfnod symud i fyd oedolion er mwyn hybu dewis cadarnhaol o ran defnydd o’r Gymraeg yn gymdeithasol. Mae hefyd angen edrych ar brinder darpariaeth i blant blynyddoedd cynnar.

Rhoddwyd nifer o gynigion yn yr adroddiad hwn ar gyfer gwella’r sefyllfa hon a dylai’r partneriaethau perthasol ystyried y rhain.

Dylid gadael i’r panel pobl ifanc archwilio opsiynau ar gyfer y ffordd ymlaen. Mae’n bwysig hefyd bod ganddynt rôl monitro er mwyn barnu a yw’r sefyllfa wedi gwella.

Dylid cynnal fforwm blynyddol er mwyn adolygu’r sefyllfa.